Llanfair-ym-Muallt
Ennill bywoliaeth
  Masnachwyr: Price - Williams  
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf

Extract from Pigot's Directory of 1835Dyma rai o'r masnachwyr oedd yn brysur o gwmpas Llanfair-yn-Muallt ym mlynyddoedd cynnar oes Fictoria.

Pan roedd yr holl gludo lleol yn cael ei dynnu gan geffylau, roedd y masnachwyr oedd yn gofalu am bob agwedd o geffyl a throl yn bwysig dros ben. Yma gallwch weld Morgan Price , roedd e'n gyfrwywr (saddler) ac yn harneisiwr (harness maker). Nid gwneud cyfrwy yn unig oedd ei waith ond hefyd yr holl bethau eraill oedd eu hangen ar geffyl fel y tresi a'r ffrwynau a'r coleri lledr. I lawr y rhestr mae John Thomas y saer, roedd e'n gwneud olwynion trol hefyd.

Mae yna chwech o gryddion ar y rhestr felly roedd yna 10 o gryddion yn ardal Llanfair-yn-Muallt yn 1835. Heddiw mae esgidiau'n cael eu gwneud mewn gwledydd eraill ac yna'u gwerthu mewn siopau, ond yn amser Fictoria byddai pobl yn ymweld â'r crydd yn ei weithdy a byddai ef yn gwneud pâr o esgidiau yn arbennig ar eu cyfer. Byddai'r esgidiau yn cael eu trwsio ac yn cael gwadnau newydd er mwyn iddynt bara am flynyddoedd. Doedd y bobl dlotaf ddim yn gallu fforddio hyn ac roedd llawer o blant tlawd yn cerdded yn droednoeth.

Ar y rhestr gallwn weld llyfrwerthwr o'r enw Llewelyn Pritchard . Mae'n bur debyg byddai llawer o bobl yr ardal yn methu darllen yr amser yma. Ond byddai rhaid i'r masnachwyr allu o leiaf darllen ac ysgrifennu ac adio er mwyn cadw'u cyfrifon. Ychydig iawn o labrwyr a gweision fyddai'n gallu darllen Saesneg y pryd er hynny. Mae'n debyg y byddai Mr Pritchard yn gwerthu papur, inc a chwilsyn at ysgrifennu llythyrau.

 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt