Llanfair-ym-Muallt
Ennill bywoliaeth
Masnachwyr: Bevan - Evans | ||
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf |
Mae llawer iawn o'r pethau rydym ni'n eu prynu heddiw wedi cael eu gwneud mewn ffatrïoedd mewn gwledydd eraill. Yn gynnar yn oes Fictoria roedd cludo nwyddau'n arafach ac yn fwy anodd, ac felly roedd llawer o'r pethau roedd ar bobl eu hangen yn cael eu gwneud yn lleol gan grefftwr fel y crydd neu'r teiliwr. Gwaith y trinwyr lledr( Curriers) oedd paratoi crwyn anifeiliaid a gwneud lledr ohonynt. Roedd lledr yn cael ei ddefnyddio'n aml cyn i blastig fod ar gael. Roedd y bragwr (maltster) yn trin yr haidd gyda brag yn ei fragdy. Roedd y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio i fragu cwrw. |
|
Roedd y saer olwynion ( wheelwright) yn grefftwr oedd yn gwneud olwynion. Gan fod y rhan fwyaf o drafnidiaeth ar y pryd yn droliau neu goetsis roedd y busnes hwn yn un pwysig iawn. |