Llanfair ym Muallt
tref fynnon
  Yfed o'r ffynhonnau  
 

Roedd ymweld â lleoedd oedd â ffynhonnau mwynol i 'Yfed o'r ffynhonnau' yn beth ffasiynol gan y bobl gyfoethog yn y 18 fed ganrif. Roedd yna fathau gwahanol o ffynhonnau, a phob ffynnon â mwynau gwahanol yn y dwr, roedd pobl yn tybio bod pob ffynnon yn llesol ar gyfer mathau gwahanol o afiechyd.
Roedd ymwelwyr wedi bod yn dod i Gomin Llandrindod ers o leiaf yr 17fed ganrif, ac roedd pobl busnes yn gobeithio y byddai ffynhonnau'n cael eu darganfod o amgylch Llanfair-ym-Muallt er mwyn denu ymwelwyr i'r dref honno.

 
  Victorian map of Park Wells  
  Cafwyd bod ffynhonnau mwynol filltir y tu allan i'r dref, ac roedd pobl yn gobeithio'n arw y byddai y rhain yn cael eu datblygu. Dywedodd un ymwelydd a ddaeth i yfed o'r ffynnon yn Ffynhonnau'r Parc, Llanfair-ym-Muallt yn 1747 bod blas fel sylffwr ar y dwr, ac arogl fel powdr gynnau.  
  Nid er lles eu hiechyd yn unig roedd pobl yn ymweld â'r ffynhonnau hyn, ond am wyliau hefyd. Felly roedd rhaid i sba gael lleoedd da i bobl aros a phethau i'r ymwelwyr i'w gwneud. Roedd gan Ffynhonnau'r Parc (isod) stafell uwchben Stafell y Pwmp, a gwesty hefyd. Ond ym mlynyddoedd cynnar oes Fictoria, yn ôl y sôn, doedd " dim mwy na thri neu bedwar o dai yn y dref neu'r gymdogaeth yn cynnig llety".  
  Park Wells in Victorian times.  
  Pan ddaeth y rheilffyrdd roedd mwy a mwy o'r werin bobl yn gallu ymweld â'r ffynhonnau, a chynyddodd nifer y gwestai yn y dref.  
 

Mwy am yfed o'r ffynhonnau ..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt