Llanfair ym Muallt
tref fynnon
Mwy am..
Yfed o'r ffynhonnau  
 

Victorian map of Glanne Wells

 
  Agorwyd Ffynhonnau Glannau y tu draw i'r bryn o'r Ffynhonnau Parc. Ond i ddechrau roedd pobl yn tybio bod y rhain yn fwy cyntefig. Yn sicr roedd hi'n fwy anodd mynd atynt am fod rhaid i ymwelwyr ddringo camfa i gyrraedd. Yn ddiweddarach cafodd llwybr gwell ei wneud ac adeiladwyd Pafiliwn (gweler isod) ar gyfer yr ymwelwyr, un tebyg i bafiliwn Ffynhonnau Parc.  
  Victorian photograph of Glanne Wells  
  Cafodd yr ardal ar lannau'r afon a elwir Y Gro ei glanhau a'i gwneud yn lle dymunol gyda phafiliwn i gychod hamdden a band stand. Yn ogystal â mynd mewn cwch ac ar deithiau cerdded gallai'r ymwelwyr fynd am wibdaith i leoedd tlws mewn charabanc. Bws agored gyda cheffyl yn tynnu oedd charabanc. Yn ddiweddarach yn oes Fictoria daeth hurio beiciau'n boblogaidd.  
  Cynhaliwyd dramâu gan actorion teithiol yn y dref, a chyngherddau gan gorau lleol. Roedd nifer o'r ymwelwyr yn dod o Dde Cymru , ac roedd yr eisteddfodau lleol yn denu niferoedd mawr ohonynt.  
 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt