Llanfair ym Muallt
yn yr oes Fictoria
  Y defaid yn y dref  
 

Dyma lun cynnar arall o dda byw yn cael eu gwerthu yng nghanol Llanfair-ym-Muallt. Ond yn lle gwartheg yn rhydd yn y Stryd Fawr mae yna ddefaid mewn corlannau yn Stryd y Farchnad.
O leiaf byddai'r trefniant hwn yn achosi llai o anhrefn a budreddi na'r gwartheg rhydd.

 
Stryd y Farchnad, Llanfair-ym-Muallt
c1900
Sheep fair in Builth,c1905
  Mae'n debyg mai llun o'r un cyfnod â'r ffotograff o'r ffair wartheg yw hwn -tua 1900, ar ddiwedd blynyddoedd cyfnod Fictoria.
Yn y cyfnod hwn roedd defaid yn Llanfair-ym-Muallt yn cael eu prynu a'u gwerthu yn Stryd y Farchnad ac yn Sgwâr y Banc,. Roedd hi'n 1910 cyn i farchnad da byw iawn gael ei hagor ar Ffordd Aberhonddu.
Mae'r olygfa uchod i'w gweld wrth edrych i lawr Stryd y Farchnad tua'r Stryd Fawr a Stryd y Gorllewin, gyda Sgwâr y Banc ar yr ochr dde. Mae llun arall o'r gyfres hon yn dangos Sgwâr y Banc fel y byddai'n edrych o ochr yr adeilad sy yng nghanol y llun.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt