Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
  Y Gosb am fod yn ddihiryn
Geirfa
  Ar y dudalen hon gallwch weld mwy o'r ddogfen llys sydd ar y dudalen olaf. Mae'r geiriau wedi dod o Gofnodion y Sesiwn ar gyfer Sesiynau Chwarter Sir Frycheiniog yn 1866. Mae'n rhoi ychydig mwy o hanes y cyhuddo Mary Ann Phillips o fod yn ddihiryn ac yn gardotyn yn Llanfair-ym-Muallt. Viable - Ymarferol, posib.
 
Llun gan
Rob Davies

Dyma ran gyntaf cofnodion y llys -
"The said Mary Ann Phillips on the 18th day of August instant at the parish of Builth in the said County of Brecon did wander abroad and lodge in a certain outhouse there situate not having any viable means of subsistence and not giving a good account of herself"...

Mae'r geiriau "wander abroad" yn golygu teithio o amgylch yr ardal, nid mynd i wledydd dros y môr.

Ystyr y geiriau "not giving a good account of herself" yw fod yr Ustusiaid yn meddwl nad oedd hi'n gallu dweud lle roedd hi'n aros na sut allai hi dalu am fwyd a llety.
Sleeping on straw
  Court paper,1866
  Court paper,1866
 

Ystyr y geiriau "contrary to the form of the statute" yw fod hyn yn erbyn rhyw gyfraith arbennig.
Rydym ni heddiw yn meddwl bod wythnos o garchar am gysgu mewn ysgubor yn gosb lym iawn , ond o leiaf chafodd hi ddim llafur caled! Byddai'r Awdurdodau wedi sicrhau byddai Mary Ann wedi cael ei hanfon dros ffin y sir ar ôl dod allan o'r carchar.
Dihiryn arall o Lanfair-ym-Muallt oedd Henry Hooper yn 1854.

Cardota yn 1854…

 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt