Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
  Henry Hooper yn mynd i gardota  
 

Ym mhapurau llys Sir Frycheiniog yn 1854 mae yna achos arall o ' Ddihiryn a Chrwydryn' yn Llanfair-ym-Muallt.
Ei enw oedd Henry Hooper, Gallwch weld y rhan gyntaf o'r papur sydd yn cofnodi'r achos isod.

 
  Court paper,1854 "Be it remembered, That on the Second Day of May in the Year of our Lord One Thousand Eight Hundred and Fifty four at Builth in the County of Brecon, Henry Hooper is convicted before me the undersigned, one of Her Majesty's Justices of the Peace in and for the said County of being a Rogue and Vagabond..."
  Court paper,1854 "...for that the said Henry Hooper on the first Day of May instant at the parish of Builth in the said County did go about and beg for alms..."
  Yn yr achos yma roedd Henry Hooper wedi ei gyhuddo o gardota am arian, ac nid yn unig am grwydro o gwmpas heb unrhyw le i aros fel byddai Mary Ann Phillps ar ôl hyn yn 1866.
Roedd yr awdurdodau'n llym iawn ar bobl oedd yn cael eu dal yn cardota. Roedd Henry Hooper i gael ei garcharu yng Ngharchar y Sir yn Aberhonddu. Yn y carchar hwn byddai'n cael Llafur Caled am bythefnos o amser. Ar ôl y ddedfryd byddai'n rhaid iddo adael y sir.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt