Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
  Costau gwarchod Llanfair-ym-Muallt  
 

Yn y cofnodion o'r Sesiynau Chwarter yn ystod oes Fictoria mae bwndeli o ddogfennau swyddogol ar gyfer pob cyfarfod o'r llys. Yr enw arnynt oedd 'Session Rolls'. Yn y rhain roedd manylion troseddau a chosbau, ond hefyd roedd yma filiau a phapurau amrywiol eraill sydd yn ein helpu ni i greu llun o fywyd bob dydd y cyfnod.

 
  Yn 1854 roedd yna bapurau oedd yn son am dreuliau Jeremiah Rattigan, Uwcharolygydd yr Heddlu yn Llanfair-ym-Muallt. Yn y papurau gallwch weld fod angen £8 y flwyddyn am ei wisg blismon, a £22 am ei geffyl.  
  Quarter Sessions paper Roedd y papurau'n cael
eu rhwymo at ei gilydd
ar ôl bob sesiwn chwarter,
ac yna'u rholio i wneud
swpyn tyn o bapurau.
Gallwch weld y twll a'r
llinyn ar dop y papur yma.
  Mae hwn yn dod o Gofnod Sesiwn 1854. Dyma beth sydd ynddo-    
"The County of Brecon
1854 - To Jeremiah Rattigan, Supt Constable, Builth
May 20th - To Police uniform boots and shoes for the current year as per duplicate of resolution No 1 attached -"

£8. 0. 0
"June 30 - To Horse allowance from the 29th May until the 30th June inclusive at £22 per annum as per duplicate of resolution No 2 attached -" £2. 1. 1
 

Ar y ddwy dudalen nesaf gallwch weld dau bapur sydd wedi eu rhwymo ato ac sydd yn sôn am ei wisg swyddogol ac am ei geffyl …(penderfyniad 1 a 2 )(resolution 1 and 2)

Dillad newydd y plismon yn 1854 …

 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt