Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
Cig anheilwng i fwydo dyn | ||
Doedd gan neb rewgell yn 1866, does dim syndod felly bod prynu cig yn gallu bod yn fusnes go beryg. Roedd yr awdurdodau'n ceisio gwneud y peryg yn llai. Mae yna enghreifftiau o'r siopwyr yn cael eu cyhuddo o geisio gwerthu cig oedd yn rhy hen. Yn yr enghraifft hon gallwch weld fod Charles Hamer wedi ei gyhuddo o werthu cig drwg yn Llanfair-ym-Muallt ym mis Hydref 1866... |
Dyma
ran o'r ddogfen ar gyfer Cofnodion y Sesiwn am 1866 – "[Charles Hamer]...is convicted before the undersigned four of Her Majesty's Justices of the Peace for the said County for that the said Charles Hamer on the 4th day of October last, at the parish of Builth in the said County, did expose for sale a quantity of meat which was unfit for the food of man, contrary to the form of the statute in such case made and provided". Mae'r rhan olaf o'r rhan "contrary
to..." wedi cael ei hysgrifennu mewn iaith
gyfreithiol yn y Saesneg, ond
yr ystyr yw ' yn erbyn cyfraith y wlad'. Mae dogfennau cyfreithiol Saesneg
bob amser yn anodd i'w deall. Beth ddigwyddodd i ddyn y cig drwg o Lanfair-ym-Muallt...
|
||