Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
  Wrth edrych i lawr ar y carchardy  
 

Cynllun o'r llawr isaf yng ngharchardy newydd Llanfair-ym-Muallt yn 1860 yw'r llun sydd ar y dudalen hon. Fel hyn y byddai'n edrych ar ôl ichi dorri'r llawr uchaf i ffwrdd ac edrych i lawr ar y carchar . Mae'n siwr byddai rhai o garcharorion y celloedd wrth eu bodd petái'r llawr uchaf wedi cael ei dorri i ffwrdd er mwyn iddyn nhw gael dianc!

 
  1860 plan of lock-up
  Yn y llun hwn gallwch weld y fynedfa gyhoeddus yn y gornel isaf ar y dde. Hwn oedd yng nghynllun y tu blaen i'r adeilad sydd ar y dudalen ddiwethaf. Mae'r grisiau cylchol yn mynd i Part of 1860 drawings.fyny i lys yr ynadon sydd yn y llofft.
Hefyd gallwch weld tair cell fach fach ar gyfer y carcharorion ar ochr dde'r adeilad. Roedd to crwm yn y celloedd, a dim ffenestri ond tyllau gwynt bach yn unig.
Cegin, ystafell fyw, bwtri, a swyddfa i'r heddlu oedd yr ystafelloedd ar y chwith. Roedd y prif risiau eraill yn y cefn (top, cefn y llun) yn fynedfa i'r llys ar gyfer yr ynadon.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt