Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
  Carchardy newydd Llanfair-ym-Muallt  
 

Rhan o'r Cofnodion ar gyfer y carchar newydd ac Ystafell Ynadon a'r a gynlluniwyd ar gyfer Llanfair-ym-Muallt yn 1860 yw'r papurau a welwch chi yma. Roedd yr adeilad i gael ei godi yn Stryd y Castell.
Dyma lun o du blaen yr adeilad. Roedd mynedfa'r cyhoedd ar y dde ac roedd yn arwain i fyny'r grisiau ac i ystafell y llys lle roedd yr ynadon yn gwrando ar yr achosion lleol. Roedd celloedd y carcharorion y tu ôl i'r wal sydd heb ffenestri wrth ymyl y drws hwn.

 
 

Home Office paper,1860

Original  design,1860
Y tu blaen i'r Carchar yn 1860
 

Cymeradwyaeth swyddogol y Llywodraeth o'r Swyddfa Gartref yn Whitehall, Llundain, yw'r ddogfen uchod (chwith). Dyma'r geiriau sydd arni-
"I hereby certify my approval of the annexed [attached] plans for a lock-up house which it is proposed to erect at Builth in the County of Brecon.
Whitehall, April 12th, 1860 - G I Lewis"

Mae llawer mwy am yr annedd newydd i ddrwgweithredwyr ar y dudalen nesaf

Mwy am y carchardy newydd..

 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt