Llanfair ym Muallt
yn yr oes Fictoria
  Lle bu'r drychineb yn 1853  
 

Yn y llun yma gallwch weld y lle i groesi'r afon yn Llanddewi'r Cwm, ar yr hen ffordd i Aberhonddu ac i'r de o Lanfair-ym-Muallt.
Yn y fan hon mae'r bont yn croesi'r Afon Duhonw , mae hyn yn agos at lle roedd y drychineb ar ôl storm anferthol ym mis Gorffennaf 1853. Mae'n debyg mai yn hwyr yn y 1890au y tynnwyd y llun hwn a gallwch weld y bont a godwyd yn lle'r un a gollwyd yn y storm.

 
Pont Duhonw
tua
1895
Bridge over the R.Duhonw
  Parodd storm 1853 i lifeiriant anferth o ddwr ruthro i lawr yr Afon Duhonw, cafodd tuag ugain o bontydd eu hysgubo ymaith neu eu difrodi gan y dwr.
Cafodd wyth o bobl eu boddi. Yn y storm cafodd bwthyn oedd ar lan yr afon, a'r teulu oedd yn byw ynddo, eu hysgubo i lawr yr afon. Mae'r olygfa Fictoraidd heddychlon hon yn ymddangos yn bell iawn o arswyd y dilyw a fu gynt.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt