Llanfair-ym-Muallt
Llifogydd Dihonw yn 1853
  1 Storm ofnadwy yn y nos  
 

Roedd y tywydd ar ddechrau Gorffennaf 1853 yn boeth ac yn hafaidd. Trodd y tywydd yn drymaidd ac roedd y taranau'n bygwth,fel sy'n digwydd yn aml. Yn ystod nos Wener y 9fed o Orffennaf, torrodd y storm ar ardal Llanfair-ym-Muallt a hynny gyda grym anferthol.
Yn nhywyllwch y nos syrthiodd y glaw yn genllif ac yna disgynnodd y cesair yn bedair neu bum modfedd o drwch ar y ddaear.

 
 

Pont DuhonwNi allai'r nentydd a'r afonydd ddal yr holl ddwr, a difrodwyd neu difethwyd tua 20 o bontydd. Boddwyd 8 o bobl.

Ar ucheldir Mynydd Epynt syrthiodd cenllifoedd o law, arllwysodd y ffrydlif i'r afon Duhonw, ac yn Llanddewi'r Cwm ysgubwyd y bont i lawr yr afon. Llifodd cymaint o ddwr i'r afon nes dadwreiddio coed a symud creigiau wrth iddi fynd ar ei hynt.

Bu rhaid i'r melinydd, Thomas Evans Melin Dolau Newydd, agor twll yn y to er mwyn llusgo'r teulu i ben y to ac o afael y llif a darodd y felin gan olchi rhan ohoni ymaith. Rhaid bod y teulu'n arswydo yn y tywyllwch wrth iddynt ddal eu gafael yn dynn, gyda'r storm yn taranu o'u hamgylch a'r afon yn ysgubo coed a chyrff anifeiliaid heibio i'r felin ddrylliedig.
.

 
 

Rhagor am ddilyw mawr 1853...

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt