Llanfair-ym-Muallt
Llifogydd
Dihonw yn 1853
2 Trychineb Dolfach | ||
Tybir i'r sbwriel a olchwyd i lawr
yr Afon Duhonw wneud tagfa mewn ffos gul a chreu argae. O'i herwydd rhuthrodd
llifogydd i lawr ochr dyffryn cul yr Afon Duhonw ac yn union am
fwthyn Dolfach. |
||
Mrs Jane Lawrence a'i merch Matilda oedd yn y bwthyn y noson honno, a hefyd dau o wyrion Mrs Lawrence, Charles a Rosa, a dwy forwyn. Gwelodd cymydog, oedd yn byw ar draws y cwm, yr hyn a ddigwyddodd. Pan gafodd ei ddeffro gan swn y llifogydd yn ei gartref edrychodd drwy’r ffenestr a gweld bod rhan o dyddyn Dolfach wedi mynd gyda'r llif. |
||
Llun
gan Rob Davies |
||
Yn fuan wedyn daeth y llifogydd i
mewn drwy ffenestri'r llofftydd a syrthiodd dwy
goeden, a oedd wedi cael eu cludo gan y dwr, ar ben yr adeilad.
Chwalodd Dolfach a syrthio i'r llifeiriant gwyllt. Dim ond talcen y ty
oedd ar ôl. Boddwyd pob un o'r trueiniaid oedd yn y bwthyn. Roedd cyrff y ddau wyr a'r morynion
yn ymyl Llanfair-ym-muallt. Roedd pobl oes Fictoria yn gyfarwydd gyda
marwolaeth, roeddent wedi hen arfer â ffrindiau a pherthnasau'n marw'n
ifanc o heintiau. Er hynny brawychwyd pawb ar hyd a lled yr ardal am fod
teulu cyfan wedi diflannu i'r tywyllwch
fel hyn. Roedd newyddion am y drychineb yn y papur newydd yr Hereford
Times ac roedd pobl wedi clywed amdani ledled Canolbarth Cymru
a Sir Henffordd. |