Llanfair
ym Muallt
yn yr oes Fictoria
Llond y lle o dda byw ! | ||
Yr hen enw Cymraeg am Lanfair-ym-muallt oedd Buellt, gair yn golygu 'bustach gwyllt', a symbol y dref yw tarw â chyrn mawr ganddo. Er bod gan y dref lawer o gysylltiadau gyda ffarmio da byw, aeth llawer o flynyddoedd heibio cyn iddi gael Marchnad, ac roedd yr anifeiliaid yn arfer â chael eu prynu a'u gwerthu ar y strydoedd. |
Y
Stryd Fawr,
Llanfair-ym-Muallt 1905 |
Tynnwyd
y llun hwn yn y Stryd Fawr, Llanfair-ym-Muallt yn 1905,
bedair blynedd ar ôl marwolaeth y Frenhines Fictoria. Mae ffotograff arall
ar gael yn y gyfres hon, ac efallai ei fod wedi cael ei dynnu ar yr un diwrnod.
Mae'r llun yn dangos golygfa debyg o'r Stryd Fawr,
ond o gyfeiriad gwahanol. Byddai'n anodd i'r ffermwyr gadw eu hanifeiliaid
ar wahân i'r anifeiliaid eraill a oedd yn cael eu gwerthu, am eu bod i gyd
yn rhydd yn y stryd a heb glwydi i'w cau i mewn fel yn y marchnadoedd anifeiliaid
heddiw. Gallwch feddwl nad oedd y siopwyr yn hapus iawn ar ôl i'r gwartheg adael ar ddiwedd y dydd gan adael eu holion yn y strydoedd. . |
||