Llanfair-ym-Muallt
Mapiau Fictoriaidd
  Llanfair-ym-Muallt yn 1905  
 

Mae hwn yn rhoi darlun rhagorol o Lanfair-ym-Muallt ar ddiwedd teyrnasiad Y Frenhines Fictoria. Mae yma lawer iawn o newidiadau ers map 1888. Pan grëwyd y map hwn roedd tref sba Llanfair-ym-Muallt ar ei hanterth . Roedd llawer iawn o ymwelwyr yn dod bob haf i yfed dwr y ffynhonnau ac i fwynhau'r dref a'r wlad o'i chwmpas.

 
  map of Builth in 1905
  1. Mae'r Gro wedi cael ei ddatblygu ymhellach ers 1888. Cafodd llwybr coediog ei lunio,(gweler i'r dde) a phafiliwn cychod a llwyfan glanio. Cafodd Ffordd y Gogledd ei hadeiladu, gyda'r tai yn edrych ar draws yr afon.  
  2. Mae dwy ysgol arall wedi'u hadeiladu yn Llanfair-ym-Muallt. Cyn hyn roedd y mwyafrif o'r plant yn mynd i'r ysgol elfennol pan oeddent yn blant bach, ac yn aros yno hyd nes roeddent yn 13 oed. Yna roeddent yn gadael yr ysgol ac yn mynd i weithio. Erbyn diwedd teyrnasiad Y Frenhines Fictoria gallai'r plant mwyaf galluog fynd i'r Ysgol Ganolraddol yn Ffordd y Gogledd. Ysgol Uwchradd oedd hon. Roedd llawer o deuluoedd tlawd yn methu â fforddio i wneud hyn, er hynny.
Yr ysgol newydd arall yw'r ysgol ar gyfer y plant bach ymhen Dwyreiniol y dre, ac yng nghysgod hen domen y castell.
 
  3. Cafodd Ysbyty Fwthyn ei hadeiladu yn y dref. Agorodd yr ysbyty yn 1897. Pobl gyfoethog yr ardal oedd yn credu y dylai'r bobl dlawd gael gofal ysbyty pan oedd angen arnynt oedd yn talu amdani.  
  4. Yn y ty mawr â'r enw 'The Castle' arno mae cyfreithiwr lleol a'i deulu'n byw. Pan fu farw'r Frenhines Fictoria, merch fach oedd Hilda Vaughan, merch y cyfreithiwr. Tyfodd i fyny i fod yn nofelydd enwog oedd yn ysgrifennu am yr ardal leol yn Saesneg.  
  Cymharwch hwn gyda'r map o Lanfair yn 1840..
Cymharwch hwn gyda'r map o Lanfair yn 1888..
 
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt