Llanfair-ym-Muallt
Mapiau Fictoriaidd
  Llanfair-ym-Muallt yn 1888  
 

Mae'r ddelwedd isod wedi ei thynnu o fap yr Ordnans. Y raddfa yw 6 modfedd = 1 filltir. Mae'r dref yn y cyfnod yn para ychydig yn wahanol i'r Llanfair-ym-Muallt gyfoes, ond cafwyd rhai newidiadau pwysig ers map 1840. Mae'r tollbyrth wedi mynd ac mae pobl yn gallu teithio am ddim ar y ffyrdd. Mae rhifau ar y map ar gyfer rhai o'r rhain.

 
  Map of Builth in 1888
  1. Daeth y rheilffordd i Llanfair-ym-Muallt (er mai yn Llanelwedd mae'r orsaf.) Roedd hon yn cysylltu'r dref a'r ardal o'i chwmpas gyda rhwydwaith eang y rheilffyrdd oedd yn gwneud teithio drwy'r wlad a chludo nwyddau yn haws o lawer. Hefyd roedd hyn yn caniatáu i Lanfair-ym-Muallt (a Llangamarch a Llanwrtyd) ddenu ymwelwyr i gymryd y dwr mwnau ac i ddatblygu yn drefi sba. (gwelwch y tudalennau ar drafnidiaeth)  
  2. Roedd ysgol ar gyfer plant cyffredin y dref wedi cael ei sefydlu. Roedd hyn yn beth pwysig gan fod y plant yn cael eu dysgu i ddarllen Saesneg a sgiliau eraill oedd yn golygu fod gwell cyfle iddynt ar gyfer cael gwaith ar ôl iddynt dyfu. (gwelwch y tudalennau ar fywyd yn yr ysgol)  
  3. Yn 1840 roedd yna sgwâr gwag ar ben y bont, mae'r map hwn yn dangos y Neuadd y Farchnad grand a gafodd ei chodi yn 1877. Erbyn hyn dyma Ganolfan Celfyddydau Glannau'r Gwy.  
  4. I'r de o dref Llanfair-ym-Muallt mae Undeb Deddf y Tlodion wedi adeiladu wyrcws newydd i roi llety i dlodion yr ardal oedd heb y modd i gynnal eu hunain. Roedd pobl yn cael eu cloi yma nes roeddent yn gallu ennill arian yn y gymuned ar y tu allan. Cafodd ei adeiladu yn 1877 a'i ddymchwel yn 1941 (gwelwch y tudalennau ar ofalu am y tlodion)  
  5. Mae'r hen sianel ddwr oedd yn gwahanu'r Gro a'r dref wedi cael ei llenwi. Daeth y Gro yn barc gyda bandstand. Roedd hyn i gyd yn rhan o ymdrechion y dref i ddenu ymwelwyr newydd i ddod ar eu gwyliau yma, ac i yfed o'r ffynhonnau. Sylwch ar draws y stryd i gyfeiriad y De, fod Heol y Glannau yn ymestyn i'r Stryd fawr, a bod Plas y Glannau wedi cael ei adeiladu.  
  Cymharwch hwn gyda'r map o Lanfair yn 1840..
Cymharwch hwn gyda'r map o Lanfair yn 1905..
 
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt