Llanfair-ym-Muallt
Mapiau Fictoriaidd
Llanfair-ym-Muallt yn 1840 | ||
Mae'r ddelwedd isod wedi ei seilio ar fap y degwn ar gyfer Llanfair-ym-Muallt. Cafodd ei wneud yn 1840. Ar y map gallwch weld tref farchnad fach fel ag yr oedd hi ar ddechrau teyrnasiad Y Frenhines Fictoria. Gallwch weld fod siâp canol y dref yn hawdd ei adnabod ond mae ychydig yn wahanol i'r Llanfair-ym-Muallt gyfoes. Gallwch weld bod y dref wedi tyfu i fyny ar groesfan bwysig dros yr Afon Gwy. Byddai llawer o'r adeiladau sydd ar y map wedi cael eu gwneud o gerrig y castell . |
||
1 Yn ystod y cyfnod hwn sgwâr agored oedd ar ben Sir Frycheiniog i Bont yr Afon Gwy. Nid oedd Neuadd y Farchnad (heddiw yn Ganolfan Celfyddydau Glannau'r Gwy) wedi ei chodi eto. Roedd yna fythynnod bach ar y safle, a gallwch eu gweld yn yr engrafiad hwn o'r cyfnod. | ||
2 Ar y ffyrdd allan o'r dref, i'r Dwyrain ac i'r Gorllewin, gallwch weld dau dollborth ar y map. Roedd Y rhain wedi cael eu gosod yma gan yr Ymddiriedolaethau Tyrpegau er mwyn iddynt gael codi tâl oddi ar bobl am gael defnyddio'u ffyrdd tyrpeg. Ni fyddai'n rhaid i bobl oedd yn cerdded dalu. Byddai'n rhaid ichi dalu petaech yn teithio ar gefn ceffyl, neu'n cael eich tynnu gan geffyl, neu'n gyrru anifeiliaid ar hyd y ffordd. | ||
3 Roedd yna gwrs dwr lle mae Ffordd y Gogledd heddiw, ac roedd hwn yn rhannu'r dref oddi wrth y rhandir sydd yn cael ei alw'n 'Y Gro' heddiw. Llain o laswellt a gro yn unig oedd Y Gro, ac roedd llifogydd yma'n aml. | ||
4 Dim ond maes agored oedd ar waelod lle mae Y Strand heddiw, sydd yn cysylltu'r Stryd Fawr â min yr afon. |
Cymharwch
hwn gyda'r map o Lanfair yn 1888.. Cymharwch hwn gyda'r map o Lanfair yn 1905.. |
||