Aberhonddu a'r cylch
yn yr oes Fictoria
Neuadd Sirol Brycheiniog, Aberhonddu  
  Cafodd yr adeilad mawreddog hwn sydd mewn arddull glasurol ac sy’n gartref erbyn hyn i Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, ei orffen yn 1842, dim ond pum mlynedd wedi i Fictoria ddod yn Frenhines.
Nid yw’r adeilad, yn Rhodfa’r Capten, a welir yn y llun yma tua 1900, heb newid rhyw lawer heddiw heblaw ei bod wedi colli ei reiliau haearn cain.
 
Neuadd Sirol
Brycheiniog
tua
1900
Shire Hall, Brecon
Mae yna nifer o eitemau diddorol o oes Fictoria yn cael eu harddangos yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog
yn Aberhonddu.
 

Cynhaliwyd y llysoedd teithiol a llysoedd chwarter yn yr adeilad hwn tan 1971.
Pan gafodd y Neuadd Sirol ei thrawsnewid yn 1974 i gynnwys amgueddfa’r sir, cafodd dodrefn gwreiddiol y llys ei arbed ac erbyn hyn gellir gweld y llys Fictoraidd gyda’i ffigyrau yng ngwisgoedd yr oes pan fo’r amgueddfa ar agor.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Aberhonddu
.

.