Aberhonddu a'r cylch
yn yr oes Fictoria
Stryd y Defaid, Aberhonddu  
  Mae hwn yn hen ddarlun deniadol o ben uchaf Stryd y Defaid yn Aberhonddu a gafodd ei dynnu yn ôl pob tebyg tua 1900 ar ddiwedd blynyddoedd Fictoria.
Cafodd pob un o’r adeiladau a welir ar y chwith yn y llun eu dymchwel i ledu’r ffordd a chlirio’r safle ar gyfer Llyfrgell newydd Aberhonddu a agorwyd yn 1969.
 
Stryd y Defaid
Aberhonddu
tua 1900
Ship Street, Brecon

Mae’r wraig sy’n sefyll ar y rhiniog i’r chwith yn Poulstons, oedd yn salon trin gwallt y bryd hynny.

Mae’r siop y drws nesaf yn hysbysebu Peiriannau Gwnïo Singer.

Mae’r eiddo ar y dde yn dangos Phillips y cigydd.

 

Mae’r olygfa’n edrych i fyny tuag at y Stryd Fawr o’r ffordd fynediad i ganol Aberhonddu ar ôl croesi’r bont dros yr Afon Wysg.
Y busnesau a welir syth o’ch blaen yn y Stryd Fawr ar ganol y llun bryd hynny oedd siop y Brodyr Fryer, oedd yn gwerthu dodrefn tai.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Aberhonddu
.

.