Aberhonddu
a'r cylch Mae’r ddau ffotograff ar y tudalennau
hyn yn dangos yr un olygfa ar wahanol ddyddiadau. Dyma’r man cyfarfod
rhwng dwy afon yn Aberhonddu, yr Afon
Wysg ar flaen y llun, a’r Honddu
yn pasio o dan y bont gerrig ar y dde. Mae’r darlun diweddarach
hwn yn dangos y bont haearn newydd a adeiladwyd yn 1874. Gellir gweld yr
hyn sy’n weddill o Gastell Aberhonddu
yn amlwg iawn o’r olygfa hon sy’n dyddio fwy na thebyg o tua 1895.
Mae’r ardal ar hyd lannau’r afon
Wysg wedi cael ei chynllunio a’i thrin
erbyn dyddiad yr ail ffotograff gyda choed ifanc newydd wedi’u plannu
a waliau cerrig. Yn ôl i ddewislen
lluniau o'r Aberhonddu
yn yr oes Fictoria
Pontydd
dros yr Afon Honddu
Mae Gwesty’r Castell yng nghanol y
cefndir yn y ddau lun.
Honddu tua
1870
Y llun yma yw’r cynharaf
o ddwy olygfa debyg iawn gyda’r ddau lun wedi eu tynnu o Bont Llanfaes dros
yr Afon Wysg (a
ddangosir ar un o’r tudalennau eraill hyn).
Cafodd Pont Honddu a ddangosir yma ei golchi ymaith gan lifogydd yn 1873.
dros yr Honddu
a Chastell
Aberhonddu
tua 1895