![]() |
|
||||||||||
|
|
|||||||||||
|
Aberhonddu
a'r cylch yn yr oes Fictoria |
|||||||||||
| Yr Afon Honddu o Bont y Castell | |||
|
Mae’r ffotograff hwn o oes Fictoria
wedi dod o hen gerdyn post nad yw mewn cyflwr da iawn. Ond mae’n ddiddorol
gan ei fod yn dangos yr olygfa sy’n edrych ar hyd yr Afon
Honddu i gyfeiriad arall i’r llun a ddangosir ar dudalen arall
yn yr adran hon. |
|
|
Yr
Afon
Honddu o Bont y Castell tua 1890 |
![]() |
Mae gweddillion Castell Aberhonddu ymhell uwchben yr afon ar yr ochr hon. Yr adeilad ger y bont oedd melin Honddu yn Watergate, gydag olwyn fawr yn gyrru’r felin ddwr. |
|
Cafodd Pont haearn Honddu, y gellir ei gweld ychydig y tu hwnt i’r felin ddwr, ei hadeiladu yn 1874 yn lle’r bont garreg a gafodd ei difrodi’n wael iawn mewn llifogydd difrifol y flwyddyn gynt. Cefnau tai a busnesau yn Stryd y Farchnad yw’r adeiladau ar law chwith yr olygfa hon. Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Aberhonddu
|
||