Aberhonddu a'r cylch
yn yr oes Fictoria
Y bythynnod yn Priory Hill  
  Cafodd y llun hwn ei gymryd o hen gerdyn post yn dangos rhes ddeniadol o dai a fu un tro yn sefyll gyferbyn ag Eglwys y Priordy sef Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr (St John the Evangelist) yn Aberhonddu, sydd erbyn hyn yn gadeirlan.  
Bythynnod
y Priordy,
Aberhonddu
tua
1900
Priory Cottages
 

Cafodd yr adeiladau hyn, ar Fryn Priory (Priory Hill) ar y ffordd i’r dref o’r gogledd, eu hadnabod fel Bythynnod y Priordy (Priory Cottages). Cawsant eu dymchwel yn yr 1960au er mwyn gallu lledu’r ffordd i gludo mwy o draffig. (Roedd yr 1960au yn gyfnod prysur iawn i bobl oedd yn dymchwel hen adeiladau !)
Gellir gweld wal eglwys y Priordy, a ddaeth yn Gadeirlan Aberhonddu yn 1923, ochr yn ochr â’r ffordd ar y chwith yn y llun hwn. Mae’r adeiladau yn wynebu gwaelod y rhiw yn y Struet.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Aberhonddu
.

.