Powys Digital History Project

Llanidloes
Dyddiau’r Rheilffordd

  Pencadlys y Cwmni
Cwblhawyd gorsaf y rheilffordd yn Llanidloes, a adeiladwyd gan Gwmni Rheilffordd y Cambrian yn 1864. Fe’i gynlluniwyd er mwyn ei ddefnyddio fel pencadlys y cwmni yn ogystal â fel gorsaf i’r dref, dyma sy’n gyfrifol am olwg mawreddog yr adeilad.
Erbyn y dyddiad hwnnw roedd Llanidloes yn rhan o Linell canolbarth Cymru gyda chysylltiadau trên i’r gogledd, gorllewin a’r de.
Ffotograff
trwy ganiatâd caredig
Amgueddfa Powysland,
Y Trallwng
Gorsaf Llanidloes  
  Tynnwyd yr olygfa uchod cyn i’r llinell rheilffordd gau yn 1962, ac mae’n dangos ochr yr adeilad lle mae’r platfform. Mae canol tref Llanidloes yn gorwedd i lawr y bryn y tu hwnt i’r orsaf yn y llun hwn.
 
  Heddiw mae ffordd osgoi yn dilyn yr hen linell rheilffordd heibio tref Llanidloes. Mae’r ffordd newydd yn gorwedd o dan y gorglawdd serth sy’n weladwy ym mlaen y ffotograff uchod (chwith), a dynnwyd ym Mawrth 1999.
Gellir gweld edrychiad blaen mawreddog yr hen orsaf ar y dudalen nesaf.
Home page   
  Continue...