Ystradgynlais
Mwyngloddio am lo yn yr oes Fictoriaidd
Bywyd caled iawn i lowyr oes Fictoria | ||
Mae cloddio glo wedi bod yn waith
caled ac yn aml iawn gwaith annymunol hyd yn oed yn ddiweddar, ond yn
ystod blynyddoedd Fictoria roedd yn ffordd o fyw ofnadwy
i’r glowyr. Gan
ei fod yn waith caled i gloddio â llaw trwy’r
graig i gyrraedd y gwythiennau glo, gwnaed y gweithfeydd glo yn ddigon
mawr i adael ceirt yn llawn glo a deunyddiau gwastraff i fynd
trwyddynt. Weithiau byddai siannel fechan yn cael ei thorri yn nho’r twnnel ar gyfer pennau merlod y pyllau glo a oedd yn tynnu’r ceirt, a hyd yn oed tyllau yn y llawr ar gyfer traed y merlod ! Ym mhen draw’r siafft oedd yn cael ei weithio byddai pen y merlyn yn cael ei wthio rhwng ei goesau blaen wrth iddo droi ar gyfer y siwrnai yn ôl ! Roedd y merlod yn gwisgo capiau o ledr trwchus a ffrwyn ddall fel mai dim ond yn syth o’u blaenau yr oeddynt yn gallu gweld. |
Darlun
gan Rob Davies
|
|
Doedd
yna ddim periannau bryd hynny i gloddio’r
glo allan o ochrau cul y twnneli ac yn aml iawn roedd y glowyr yn gorfod
gorwedd ar eu cefnau a tharo‘r waliau cerrig gyda’u picelli. Roedd yn beryglus
iawn achos roedd yna berygl y gallai’r twnneli ddymchwel, gan mai dim ond
pyst pren syml oedd yn dal to’r twnnel. Hefyd roedd yna berygl o nwyon gwenwynig a ffrwydriadau, er bod Lamp Davey 1815 wedi gwneud pethau’n fwy diogel cyn dechrau oes Fictoria yn 1837. |
||