Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Arbed y wialen fedw yn 1883
Geirfa
 

Dyma rywbeth arall yn Llyfrau Cofnod Ysgol Fwrdd Ynysgedwyn sy’n ein hatgoffa o’r amser caled yr oedd plant mewn ysgol Fictoraidd yn gorfod wynebu yn ystod eu dyddiau ysgol, o gymharu â bywyd ysgol heddiw.
Roedd yn gyffredin iawn i weld athrawon yn bwrw plant gyda gwialen os nad oeddynt yn bihafio’n ddigon da. Yr enw a roddir ar hyn yw ‘cosb gorfforol’, oedd yn golygu cael eich bwrw gan wialen. (Ni ddylid cymysgu hyn gyda ‘cosb eithaf’, sef dedfryd o farwolaeth. Roedd ysgolion Fictoraidd yn gallu bod yn llym iawn ond doeddynt ddim mor llym â hynny!)

Obstreperous - swnllyd a drygiog
 
 
  School log book entryArchifdy Sir Powys

 

Dyma ddarn o ddyddiadur ysgol yn 1883:
"I find the conduct of the children much better of late. They are prompter in obedience, and less obstreperous; so that I have been able to use the rod more sparingly".

Mae’r ddihareb "use the rod more sparingly" yn golygu nad oedd yr athro yn gorfod bwrw’r plant mor aml â’r wialen.

Enghraifft arall o "ddefnyddio’r wialen"…

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais