Ystradgynlais
Gofalu am y tlawd 1
  Help yn ystod dyddiau caled  
 

Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria sefydlwyd Undebau Deddf y Tlodion i ddelio gyda’r broblem o’r bobl dlawd hynny doedd ddim yn gallu helpu eu hunain. (Edrychwch ar dudalennau’r Tloty os ydych am wybod mwy am sefydlu’r system). Daeth Cwm Tawe Uchaf o dan Undeb Deddf Tlodion Pontardawe.

Roedd y system yn cloi’r tlodion doedd ddim yn gallu edrych ar ôl eu hunain mewn tlotai. Part of paupers list of 1877Roedd Undeb Pontardawe yn parhau i geisio helpu pobl y tu allan i’r tloty, a oedd yn golygu eu bod yn gallu gweld eu ffrindiau a’u teuluoedd ac ni fyddent yn cael eu cloi i mewn. Roedd yr Undeb yn talu symiau bach o arian am fwyd a dillad i’r tlodion doedd ddim yn gallu gweithio am ryw reswm. Mae’r rhestr o dlodion oedd yn Ystradgynlais yn 1877 yn rhoi rhyw fath o syniad i ni o’r math o broblemau oedd yn wynebu’r tlawd yn ystod oes Fictoria.

 
  Part of paupers list of 1877  
 

Mae’r golofn gyntaf yn rhoi enwau’r tlodion, mae’r ail yn dweud lle roeddynt yn byw a’r trydydd, faint o arian roeddynt yn cael. Ar dop y rhestr gwelwn deulu tlawd oedd yn byw yng Ngwaith Haearn Ynysgedwyn.
Enw’r tad oedd Mr Williams ac roedd ganddo wraig, merch o’r enw Sara a mab o’r enw Evan. Y rheswm pam oedd angen help arnynt oedd o achos "salwch" ac roedd y teulu’n derbyn pedwar swllt yr wythnos (tua 20c heddiw!)
Gallwch hefyd weld tri theulu’n cael help achos fod y tadau i ffwrdd yn chwilio am waith.

 

Mwy am ofalu am y tlodion yn yr ardal…

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais