|
Mae’r
rhestr yn dangos sawl gwraig weddw a hen wr oedd yn byw yn Ystradgynlais.
Doedd dim un ohonynt yn derbyn mwy na 4/6d (22c) yr wythnos.
Er eich bod yn gallu prynu llawer iawn mwy gyda’r arian yma yn 1877
ychydig iawn o arian oedd mewn gwirionedd, ac yn fwy na thebyg
dim ond yr arian hwn oedd ganddynt i fyw arno. Ond, yn fwy na thebyg roeddynt
yn falch iawn eu bod ddim yn gorfod mynd i fyw yn y tloty. Roedd teuluoedd
cwm Tawe’n gorfod wynebu haint a chaledi
mawr. Os oeddynt yn gweithio yn y pyllau glo, chwarelu neu weithfeydd
haearn roeddynt yn wynebu perygl o farwolaeth neu anafiadau difrifol.
Os nad oeddynt yn gweithio neu ddim yn ddigon da i weithio yna roeddynt
yn gorfod byw ar beth yr oeddynt yn cael fel a welwch chi ar y rhestr
yma. I’r bobl dlawd, roedd Cymru yn ystod oes Fictoria yn gallu bod yn
lle llwm iawn.
|
|