Ystradgynlais
"Gough's Buildings"
  Strydoedd Pelican a'r Odyddion  
 

Mae darn o fap 1877 yn dangos sut wnaeth teulu Gough adeiladu rhagor o dai ar gyfer eu gweithwyr wrth i ddiwydiant yn y cwm dyfu. Gallwch weld y bythynnod a'r gerddi yn glir, roedd y gerddi yn rhan bwysig iawn o fywyd y gymuned. Mae nodweddion diddorol eraill wedi'u rhifo ar y map.

 
  (1) Mae'r map yn dangos dwy ysgol yn Stryd yr Odyddion. Ysgol yr eglwys yw'r ysgol ar ochr waelod y stryd a sefydlwyd tua chanol y 19eg ganrif. Ysgol i blant teuluoedd oedd yn mynd i'r capel yw'r ysgol ar dop y map. Erbyn 1918 roedd wedi'i rhannu'n dai preifat ac nid ysgol oedd yno rhagor. Cau wnaeth ysgol yr eglwys yn ddiweddarach ac mae'r ystafell ysgol wedi mynd yn gyfan gwbl erbyn heddiw.

(2) Yn wreiddiol roedd bythynnod Brynygroes yn sefyll wrth set o lociau lle'r oedd cychod y gamlas yn teithio i fyny er mwyn mynd ar hyd darn nesaf y gamlas. Heddiw mae'r gamlas wedi mynd ac mae'r tai
yn sefyll wrth ymyl ffordd osgoi brysur.
 

(3) Yn ddigon tebyg i Stryd yr Odyddion roedd Stryd Pelican yn ymestyn yr holl ffordd ar draws yr "ynys" o'r gamlas i'r afon. Ar ochr dde'r stryd roedd y Butchers Arms yn sefyll. Un tro ar draws y ffordd roedd siop y groser, er mae'r siop yma wedi hen fynd. Ym mhen arall y ffordd roedd Temperance House lle'r oedd pobl yn medru cael llety, ond roedd yn gwrthod gwerthu alcohol. Tynnwyd y llun yma tua 1950 ond mae'n rhoi syniad da i ni o sut efallai roedd yn edrych yn ystod cyfnod Fictoria.

(4) Adeiladwyd Capel y Bedyddwyr Ainon tua 1848. Adeiladwyd capel newydd ar y safle yn 1901. Roedd aelodau'r capel yn bedyddio eu plant yn y pwll sydd o dan Pont y Doctor hyd nes 1925.

 
 

Ewch i ddewislen "Gough's Buildings"

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais