Ystradgynlais
Bywyd ysgol
Te a chacennau oddi wrth Madame Patti |
Geirfa
|
|
Roedd Madam Adelina Patti yn gantores opera enwog a oedd yn canu yn y prif dai opera ar draws y byd yn yr 1880'au a 1890'au. Er iddi gael ei geni yn Sbaen ac mai o’r Eidal oedd ei rhieni, priododd yma yng Nghymru ac yma treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd yng Nghastell Craig-y-nos ger Ystradgynlais. Pan yr oedd hi ar ei mwyaf enwog
roedd yn medru ennill £1,000 am un
perfformiad, swm anferth o arian y bryd hynny. Ond roedd yn gantores haelionus
iawn a gwnaeth lawer i helpu pobl leol yng Nghymru. |
haelionus – bob amser yn barod i rannu’r hyn sydd gennych gyda phobl eraill | |
Archifdy Sir Powys |
Mae cofnodion ysgol
Ynysgedwyn yn sôn am y caredigrwydd y dangosodd, fel yr enghraifft
yma o 1892: A similar entry in
1889 refers to the closing of the
school for half a day "to attend Madame Patti's
distribution of charities at the village of Ystradgynlais". |
||