Ystradgynlais
"Gough's Buildings"
  Y camau cyntaf  
 

Mae map Arolwg Ordnans i'w weld nesaf, map sy'n dyddio yn ôl i 1837. Gallwch weld yn glir ar y map fod yna ddwy res o dai wedi nodi 'Gough's Buildings' ar yr "ynys" rhwng yr afon a'r gamlas. Dim ond y dechrau oedd y ddwy res hon yn y rhwydwaith o dai a oedd i'w hadeiladu ar draws yr "ynys" hon.

 
 
 

Roedd teulu Gough yn dirfeddianwyr mawr yn yr ardal, ac yn berchen ar Waith haearn Ynysgedwyn a hefyd adeiladau eraill ar hyd cwm Tawe uchaf.
Roedd y teulu yn talu syrfëwr i gofnodi manylion ei holl adeiladau ac roedd digon o arian ganddynt i dalu iddo addurno'r llyfr gyda darluniau bach fel yr un yma.

Roedd y gweithwyr oedd yn byw yn 'Gough's Buildings' yn byw bywydau caled iawn ac ychydig iawn ohonynt oedd yn berchen ar lyfr ar wahân i'r Beibl.

 

Ewch i ddewislen "Gough's Buildings"

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais