Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Afiechyd yn lledaenu ar draws y cwm  
 

Mae Llyfrau Cofnod neu ddyddiaduron bron pob ysgol Fictoraidd yn sôn am afiechydon heintus yn lledaenu’n gyflym, gan ar brydiau olygu bod yn rhaid cau’r ysgol am wythnosau. Roedd prinder arian yn golygu nad oedd gan lawer o deuluoedd fwyd nac amodau byw iach. Roedd llawer o’r afiechydon y dyddiau hynny yn aml iawn yn ddifrifol iawn ac weithiau’n gallu lladd, afiechydon sydd yn hawdd i’w trin heddiw.

 
  School log book entryArchifdy Sir Powys
 

Cofnodwyd yr enghraifft yma o Ysgol Ynysgedwyn ar yr 8fed Mehefin, 1879:
"(Derbyniwyd gwybodaeth)... effect that one of my children was ill with measles. This disease has been very bad down the valley and is now very much spread in Ystalyfera and Ystradgynlais; this case is the first among the children of this school."

Ar yr 16eg Gorffennaf yr un flwyddyn nodwyd yn y Llyfr Cofnod "The measles are now at work fully, there being over 30 children away with them".

Mae’r enghreifftiau’r o’r dyddiaduron ar y dudalen nesaf yn sôn am nifer o hanesion am gau ysgolion lleol o achos afiechydon heintus…

Ofn afiechydon heintus mewn ysgolion Fictoraidd…

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais