Ystradgynlais
Mwyngloddio am lo yn yr oes Fictoriaidd
  "Glo carreg" i’r gwneuthurwyr haearn
 

Glo anthracite oedd fwyaf yn y pyllau glo o amgylch ardal Ystragynlais, glo sydd hefyd yn cael ei adnabod fel glo carreg achos ei fod yn llawer iawn caletach a glanach na glo meddal, glo nad oedd yn cynhyrchu mwg pan oedd yn cael ei losgi.

Ar ddechrau cyfnod Fictoria doedd glo carreg ddim yn cael ei ystyried yn werthfawr achos roedd yn anodd i’w losgi, ond roedd datblygiadau newydd yn y broses o losgi wrth wneud haearn yn Ynysgedwyn yn 1837 i newid hyn. Daeth y glo carreg a oedd yn gallu cael ei losgi ar dymheredd uwch yn bwysig iawn i gynhyrchu haearn o ansawdd da i’r diwydiant a oedd yn tyfu’n gyflym iawn yn ystod oes Fictoria.

 
  Old Ynscedwyn documentArchifdy Sir Powys
 

Fe fyddai’r diwydiannau cloddio glo a haearn o amgylch Ystradgynlais ond yn gallu bodoli os oeddynt o fewn cyrraedd cludiant dibynadwy a rhad er mwyn cludo’r cynnyrch trwm a mawr allan i’w cwsmeriaid. Part of 1903 mapRoedd Camlas Abertawe yn gwneud y gwaith hwn ar ddechrau oes Fictoria, ond nes ymlaen daeth cystadleuaeth oddi wrth y rheilffyrdd.

Adeiladwyd llinell rheilffordd ar ochr arall Afon Tawe, gan gyrraedd Ystalyfera yn 1859 ac Ystradgynlais yn 1861. Yn nes ymlaen felly aeth y rheilffordd stêm newydd â llawer iawn o’r masnach cludo glo a haearn oddi ar y gamlas, a bu’n rhaid i’r gamlas ostwng ei phrisiau.
.

Hen Waith Haearn Ynysgedwyn wrth ymyl Afon Tawe fel y gwelir ar fap yn 1903.
 

Yn ôl i ddewislen glo Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais