Ystradgynlais
Bywyd ysgol
Y teulu o’r ty mawr | ||
Mae’r darn nesaf o Lyfr Cofnod Ysgol Ynysgedwyn yn dangos sut oedd y teuluoedd a oedd yn berchen y plasau mawr yn y wlad ac ystadau â llawer iawn o ddylanwad ar y gymuned leol yn ystod oes Fictoria. |
||
Archifdy Sir Powys |
Ysgrifennwyd hwn yn nyddiadur yr
ysgol yn Hydref 1876: Yr ‘etifedd’ neu 'heir' ystad neu deitl oedd mab hynaf y teulu a fyddai’n dod yn berchennog ar farwolaeth y tad. Mae’r darlun yma o Dy Ynysgedwyn yn dyddio’n ôl i 1838. Roedd ‘dod
i oed' yn golygu fod y mab, Fleming Dansey Gough, wedi cyrraedd
21 oed, ac roedd yn golygu fod y pen blwydd arbennig hwn yn rhywbeth yr
oedd y bobl leol i gyd yn ei ddathlu. Gwnaed ymdrech arbennig gan y plant
i beidio â bod yn absennol o’r ysgol ar y diwrnod hwnnw, achos fod yna
barti am ddim i bawb ! |
||