Ystradgynlais
Mwyngloddio am lo yn yr oes Fictoriaidd
  Cloddio am y diamwntiau du ar y ffin
 

Enw un o nifer o byllau glo yr ardal oedd ‘Diamond Colliery’. Daeth y pwll glo yma yn adnabyddus iawn achos fod y glo oedd yno o ansawdd uchel iawn, felly roedd enw’r pwll yn addas iawn !Anthracite coal
Roedd pwll y ‘Diamond’ ar ffin ddeheuol Sir Frycheiniog gydag adeiladau’r pwll a’r tipiau y tu fewn i’r sir ond roedd mynedfa’r gwaith glo ychydig lathenni ar draws y ffin ym Morgannwg. Dim ond ychydig lathenni i ffwrdd oedd yr Afon Tawe.

 
 

Agorwyd y pwll yn 1874 a’r glo carreg neu anthracite oddi yma oedd y glo caletaf un, roedd yn lo oedd yn sgleinio ac ni fyddai’n gadael marc ar hances gwyn glân ! Pan fyddai’r glo yma yn cael ei ysgwyd mewn bag byddai’n swnio’n debyg iawn i lestri wedi torri, a phan fyddai’n cael ei ddal i fyny i’r golau byddai’n adlewyrchu lliwiau’r enfys. Roedd y glo carreg yma yn medru cael ei losgi i dymheredd uchel iawn gan adael ychydig iawn o ludw ar ôl.

Roedd y ‘Diamond Colliery’, a gychwynnodd yn ystod cyfnod Fictoria, yn cyflogi 500 o lowyr erbyn dechrau’r 1930’au ond caeodd yn 1938 o achos bod y glo oedd ar ôl heb ei gloddio, yn anodd iawn i’w gael oddi yno.
.

‘Diamond Colliery’ wrth ymyl Afon Tawe, fel y gwelir ar fap yn 1903. Roedd gwaith haearn Ynysgedwyn ar draws yr afon.
 

Yn ôl i ddewislen glo Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais