Ystradgynlais
Mwyngloddio am lo yn yr oes Fictoriaidd
  Gofynion newydd y diwydiant
 

Mae glo wedi ei gloddio yn ardal Cwm Tawe Uchaf am gannoedd o flynyddoedd. Roedd yn cael ei ddefnyddio i losgi calch i’w wasgaru ar hyd tir amaethyddol a hefyd i wresogi cartrefi’r bobl leol.
Roedd y rhan fwyaf o’r pyllau glo cyntaf wedi’u torri i mewn i’r bryniau, a elwid yn ddrifftiau, yn hytrach na phyllau ar i lawr, achos ei bod yn llawer haws i gyrraedd y glo.

 
 
Braslun o fap yn dangos rhai
o’r prif weithfeydd glo yn ardal Ystradgynlais
yn ystod cyfnod Fictoria.
 

Roedd diwydiannwyr yn gwybod fod yna lawer iawn o fwyn haearn, glo a chalch yng Nghwm Tawe ac ychydig iawn ohono oedd wedi’i ddefnyddio erbyn diwedd y 18fed ganrif. Daeth gwaith adeiladu Camlas Abertawe, a oedd yn rhedeg wrth ymyl Afon Tawe, map 1877i ben yn 1798 gan gludo’r glo a’r haearn i lawr yr afon at y llongau ym mhorthladd Abertawe.

Ar ddechrau oes Fictoria yn 1837 roedd y gamlas yn cludo llawer iawn o lo carreg (anthracite) i’r de i Abertawe o’r pyllau glo o amgylch Ystradgynlais. Adeiladwyd canghennau lleol byr hefyd at y camlesi fel cyswllt rhwng y brif gamlas a’r gweithfeydd haearn yn Ynysgedwyn ac Ystalyfera. Fe wnaeth y gamlas rhoi gwasanaeth da i’r cwmnïau glo a chwmnïau cynhyrchu yn yr ardal am lawer o flynyddoedd.

 
 

Yn ôl i ddewislen glo Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais