Ystradgynlais
Cludiant
Cyswllt rhwng y gamlas, gwaith glo a gwaith haearn | ||
Roedd ceffyl oedd wedi'i glymu i dryciau bychain neu dramiau ar reils haearn yn medru tynnu mwy o bwysau na cheffyl yn tynnu cart dros ffordd garegog. Felly datblygu wnaeth y tramffyrdd ac yn ddiweddarach y rheilffyrdd. (Am ragor o wybodaeth am dramffyrdd edrychwch ar yr adran Cludiant). Wrth i smeltio haearn dyfu yng nghwm Tawe, roedd angen ffordd i ddod â deunyddiau crai i'r gweithfeydd haearn. Roedd glo, mwyn haearn a charreg galch i gyd ar gael yn yr ardal. Roedd yn rhaid twymo'r garreg galch mewn odynau calch er mwyn ei newid yn bowdwr sy'n cael ei adnabod fel calch. |
||
Archifdy Sir Powys |
Adeiladwyd tramffyrdd er mwyn symud y deunyddiau yma, ar ddiwedd y 18fed ganrif, a chyn gynted ag yr adeiladwyd Camlas Abertawe adeiladwyd tramffyrdd i gysylltu â hi. Roedd y tramffyrdd yma'n rhan bwysig o systemau cludiant yr ardal yn ystod oes Fictoria. Mae map Arolwg Ordnans 1837 a welwch chi yn dangos y dramffordd a adeiladwyd i ddod â charreg galch o weithfeydd Cribarth i lawr y cwm i lle'r oedd yr odynau calch, gweithfeydd haearn bach (a nodwyd 'ffwrnais' yng nghornel gwaelod chwith y map), a diwedd y gamlas. |
||