Y
Trallwng a'r cylch
Mae’r llun hwn yn dangos Eglwys
y Santes Fair, sef eglwys y plwyf yn Y Trallwng, fel mae i’w
gweld o Union Street. Arferai Rheilffordd
Gul Y Trallwng a Llanfair fynd heibio’r llecyn hwn pan weithredai
o orsaf Seven Stars yng nghanol
Y Trallwng. (Caewyd y llinell ym 1956,
ond fe’i hachubwyd a’i hailagor yn 1963,
er i’r adran a basiai trwy ganol y dref –
ac a oedd wedi’i gwasgu rhwng adeiladu o boptu iddi’n aml – gael ei chau
am byth). Gweithredir ochr Y Trallwng i’r lein (yn
ystod misoedd yr haf) o Raven Square
ar gyrion gorllewinol y dref. Yn ôl i ddewislen
lluniau o'r Y Trallwng
yn yr oes Fictoria
Union
Street ac Eglwys y Santes Fair
Yr hen dy elusen yw un o’r adeiladau
lleiaf yng nghanol y llun. Dywedir iddo gael ei sefydlu gan Thomas Parry
yn 1741. Roedd ynddo wyth o ystafelloedd i roi llety i bobl dlotaf y plwyf.
Caewyd y ty elusen tua 1912.
Santes Fair o
Union Street
tua 1900