Y
Trallwng a'r cylch
Mae’r hen lun yma’n ddiddorol am
ei fod yn un o’r lluniau prin sydd ar gael o’r Neuadd
y Dref wreiddiol yn Broad Street, Y
Trallwng. Cwblhawyd yr adeilad yn 1804
ac fe’i hehangwyd yn 1836. Ond roedd yr adeilad mwy hwnnw’n dal yn rhy
fach, ac felly adeiladwyd y Neuadd y Dref bresennol yn ei le yn 1873. Roedd cynllun syml y neuadd yn debyg
i lawer o rai eraill ar hyd a lled y wlad, gyda phyrth
bwaog agored ar lefel y stryd fel bod lle o dan do ar gyfer
marchnadoedd a digwyddiadau eraill. Defnyddiwyd y llawr
uchaf mawr ar gyfer busnes y dref a chyfarfodydd swyddogol. Yn ôl i ddewislen
lluniau o'r Y Trallwng
yn yr oes Fictoria
Yr
Hen Neuadd y Dref yn Broad Street
Wyddon ni ddim beth yw dyddiad y llun, ond credwn iddo gael ei dynnu oddeutu
1865.
y Dref
Broad Street
Y Trallwng
tua 1865
Mae llawer o’r mapiau hynaf
o drefi marchnad yn dangos yr adeilad ar gyfer marchnad dan do yn
union ar ganol y ffordd !
Ym mlynyddoedd olaf Oes Fictoria dewisodd
llawer o drefi (ac yn enwedig y dinasoedd diwydiannol
a dyfai’n gyflym) Neuaddau Tref mawr, cywrain.
Y gobaith oedd y byddai’r rhain yn chwyddo statws y dref – a’r rhai oedd
yn ei rhedeg !