Y Trallwng a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Gorymdaith yn Broad Street, Y Trallwng  
 

Mae’r llun hwn o’r Trallwng braidd yn dywyll ac yn aneglur iawn mewn mannau, a gallai fod wedi’i dynnu cyn belled yn ôl ag 1870. Gall fod yn anodd rhoi dyddiad cywir ar hen lun, ond gwyddom fod y siop a’ty du a gwyn, gyda’i hanner o goed, sydd i’w weld ar ochr chwith y llun, wedi’i ddymchwel yn 1876.
Safa’r adeilad hwn ar gornel Broad Street a Berriew Street, ac yn ddiweddarach codwyd Banc, sef y ‘North and South Wales Bank’ a Gogledd Cymru ar yr un safle.

 

Gorymdaith yn
Broad Street
Y Trallwng
tua 1870

Parade in Broad Street
 

Adeiladwyd y golofn garreg gyda thair lamp nwy arni ym mhen uchaf Broad Street yn 1835.
Ni wyddom beth oedd yr achlysur arbennig pan gafwyd yr orymdaith hon trwy’r Trallwng, ond mae llawer o hetiau uchel yn cael eu gwisgo. Mae llawer o’r bobl ar ochr dde’r llun yn aneglur iawn. Mae’r ddau gliw yma’n awgrymu dyddiad oddeutu 1870. Yn y cyfnod hwnnw roedd angen dadleniad hir o hyd wrth dynnu lluniau. Golygai hyn fod pobl (plant yn aml) oedd yn symud yn aneglur mewn lluniau Fictoraidd.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Y Trallwng