Y Trallwng a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Ysgythriad o’r Castell Coch  
 

Y Castell Coch ger Y Trallwng yw un o’r cartrefi harddaf yng Nghymru. Mae’n sefyll ar fryn ac yn edrych i lawr ar erddi a pharciau hyfryd.
Gelwir ef yn Gastell Powys neu Y Castell Coch yn Gymraeg oherwydd i’r rhan fwyaf ohono gael ei adeiladu o dywodfaen coch yn yr 13eg ganrif.

 
Y Castell Coch
Y Trallwng
tua 1830
Powis Castle engraving

Gallai llawer o arlunwyr yn Oes Fictoria ennill bywoliaeth dda trwy werthu ysgythriadau a gopïwyd o luniau gwreiddiol. Byddai’n rhaid i’r ysgythrwyr fod yn grefftwyr medrus iawn i allu cynhyrchu ysgythriadau manwl iawn ar ddur neu blatiau copr. Arferent wneud nifer fawr o brintiau yr un fath â’i gilydd, fel yr un a welir yma.
Roedd yn bosib prynu printiau am bris llawer rhatach na’r lluniau gwreiddiol.

 

Ysgythriad yw’r llun hwn wedi’i wneud o dirlun a baentiwyd gan Henry Gastineau, a deithiodd ar hyd a lled Cymru a llawer man arall ym Mhrydain yn ystod yr 1800au cynnar.
Roedd yn paentio lluniau dyfrlliw a lluniau o gestyll, eglwysi ac adeiladau eraill, ond cyhoeddwyd llawer o’r rhain fel ysgythriadau rhwng 1831 ac 1840. Mae’n debygol i’r llun gwreiddiol o’r Castell Coch gael ei baentio ychydig cyn dechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria yn 1837. Bu farw’r arlunydd yn Llundain yn 1876.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Y Trallwng