Y Trallwng a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Camlas Trefaldwyn yn Y Trallwng  
 

Mae’r llun yma’n dangos basn Camlas Trefaldwyn yn Y Trallwng, oddeutu dechrau’r 1900au, mwy na thebyg.
Mae’n edrych i gyfeiriad y de-orllewin o bont Severn Street. Yr Hollybush wharf oedd yr adeilad ar y dde, ac ar un adeg, roedd hwn yn un o undegsaith o lanfeydd glo ar y gamlas.

 
Camlas
Trefaldwyn yn
Y Trallwng
tua 1901
Montgomery canal
Heddiw mae’r Powysland Museum yn yr adeilad a arferai fod yn adeilad glanfa pan dynnwyd y llun hwn.
Yno gellir gweld llawer o eitemau Fictoraidd ymhlith casgliad eang o bethau sy’n darlunio hanes Sir Drefaldwyn.
Powysland Museum
 

Prif fasnach y gamlas oedd calchfaen a oedd yn wrtaith da iawn pan gawsai ei losgi gyda glo. Cawsai calchfaen a glo eu cludo ar gychod camlas i lawer o’r odynau calch a ddefnyddiwyd ar hyd glannau’r gamlas.
Defnyddiwyd llawer iawn ar y gamlas i allfudo coed o’r sir.
Gallwch weld olwyn ddwr hen felin flawd i’r chwith o gatiau’r lloc yng nghanol y llun.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Y Trallwng