Y Trallwng a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Yr Afon Rhiw yn Aberriw  
 

Mae pentref Aberriw tua 5 milltir (8 cilomedr) i’r de-orllewin o’r Trallwng. Maen debygol i’r ysgythriad o’r pentref a welir yma gael ei lunio tua 1830.
Mae’r olygfa’n edrych dros yr Afon Rhiw i gyfeiriad eglwys Sant Beuno.

 
Ysgythriad
o Aberriw
tua 1830
River Rhiw at Berriew
 

Mae Aberriw yn bentref hynod o dlws, gyda nifer o dai a bythynnod du a gwyn gyda’u hanner o goed.
Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1802 ar safle hen eglwys ganol oesol, a chafodd rhannau ohoni eu hailadeiladu yn 1875. Mae’n sefyll oddi mewn i fynwent gron uchel. Yn aml mae hyn yn arwydd fod yno hen, hen safle addoli.
Mae Camlas Trefaldwyn yn croesi’r Afon Rhiw dros draphont ddwr yn Aberriw.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Y Trallwng