Talgarth
a'r cylch Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig
ar fap y degwm ar gyfer plwyf Llangors
ac mae’n dangos sut le oedd y pentref ar ddechrau blynyddoedd cynnar teyrnasiad
y Frenhines Fictoria. Mae cyfrifiad 1841
yn rhoi gwybodaeth i ni ynglyn â’r plwyf tua’r amser yma. Rydym yn gwybod
fod yna 4 saer maen, 2 gwper,
2 deiliwr, 5 gofaint,
2 saer, 2 saer
dodrefn, 3 gwneuthurwr
olwynion, 1 melinwr
ac 1 gwehydd.
Mapiau
Fictoriaidd
Llangors
yn 1842
Gallwn weld o’r map fod y pentref hwn yn un sydd wedi hen ddatblygu ac
wedi tyfu lle mae sawl ffordd yn cwrdd.
MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i
Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich
eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.
Gallwch
weld eglwys y plwyf yn ei mynwent yng
nghanol y pentref wrth ymyl Nant ‘Cui’.
Sylwch
fel y mae tai wedi’u hadeiladu ar hyd y ffordd i’r Gogledd i Dalgarth, pob
un â’i ardd ei hunan.
William Morgan oedd yn cadw’r Llew Coch a Samuel Griffiths oedd melinwr
y pentref oedd yn dal i weithio pan yn 70 oed. Roedd Llangors yn gymuned
lewyrchus ac roedd gan bob un o’r crefftwyr yma eu rhan i’w chwarae.