Talgarth a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Twr a phont Talgarth  
 

Dyma ffotograff hardd o Dalgarth a dynnwyd tua can mlynedd yn ôl.
Mae’n edrych i gyfeiriad y Sgwâr o ochr arall y bont dros yr Afon Enig. Mae’r drws denaidol sydd â chanopi drosto yn perthyn i Dafarn y Bridgend.

 
Twr a phont
Talgarth
tua 1900
Talgarth Tower and Bridge
 

Ar y chwith, ychydig tu draw i’r bont, y mae Twr Talgarth a oedd un tro’n llunio rhan o’r manordy canoloesol oedd yn dipyn o gadarnle.
Y tu draw i’r twr sy’n dyddio o’r 14eg ganrif y mae Gwesty’r Twr sy’n wynebu’r Sgwâr, a Neuadd y Dref gyda’i dwr hardd sy’n dal y cloc.

Yn ôl i ddewislen lluniau Talgarth