Engrafiad cynnar o Lanandras | ||
Mae’r llun hwn yn dangos Broad
Street yn Llanandras fel ag yr oedd yn 1832,
rhyw bum mlynedd cyn coroni’r Frenhines Fictoria. Mae’n dod o lithograff
gan Joseph Murray Ince, a fu’n byw
yn Llanandras am nifer o flynyddoedd. |
Engrafiad
o
Broad Street Llanandras yn 1832 |
Math o brint yw lithograff
a wneir ar garreg neu blât metel o’r llun gwreiddiol gan yr
arlunydd. Bydd llinellau’r llun yn cael eu torri ar yr wyneb gan declyn
engrafu ac mae’r cafnau bychain hyn
yn dal yr inc pan fydd y ddelwedd yn cael ei phrintio ar bapur. Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Llanandras
|
||