Y
Drenewydd
Mapiau Fictoriaidd
Penygloddfa yn 1841 | ||
Mae’r map isod wedi’i seilio ar ran o fap y degwm o blwyf Llanllwchaearn, ac mae’n rhoi darlun inni o’r rhan hon o’r Drenewydd oedd yn datblygu yn ystod blynyddoedd cynnar oes Fictoria. |
||
MAPIAU’R DEGWM Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb |
Fe dyfodd Y Drenewydd gyda dyfodiad y gamlas ac adeiladu melinau gwlân mwy. Y cornel hwn o blwyf Llanllwchaearn oedd ardal ddiwydiannol y dref. | ||
Ar waelod y map fe welwch fasn y gamlas lle’r arferai cychod camlas gludo calch a glo i mewn ac yna’u llwytho â gwlanen a choed. Perthynai’r tir o gwmpas y basn i’r Cwmni Camlas. Yn ogystal ag ystordai neu warysau roedd yno iardiau coed, odynau calch a stablau a byddai rhai o weithwyr y gamlas yn byw yma gyda’u teuluoedd. | ||
Ym mhen ucha’r map ar draws y Bont Hir mae Penygloddfa. Ardal yn llawn strydoedd o dai ar gyfer gweithwyr oedd hon. Gallwch weld rhandiroedd ar gyfer y trigolion ychydig i’r Dwyrain, wedi’u gosod yn sgwariau ar ochr y bryn. Roedd tyfu eich bwyd eich hunan yn bwysig i deuluoedd a geisiai gynnal eu hunain ar ychydig. |