Y Drenewydd
yn yr oes Fictoria
  High Street, Y Drenewydd cyn 1898  
 

Llun o High Street, Y Drenewydd sydd ar y dudalen hon, yn edrych i gyfeiriad y ‘Cross’ a’r gyffordd â Broad Street. Fe’i tynnwyd cyn 1898, ac mae o ddiddordeb arbennig wrth ei gymharu â llun tebyg a dynnwyd ar ôl 1900 sydd i’w weld ar dudalen arall.
Roedd yr adeiladau a welir ar ben draw High Street wedi cael eu dymchwel erbyn 1898, pan ddechreuwyd ar y gwaith ar Adeiladau’r Cross a’r Twr Cloc i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Fictoria.

High Street
Y Drenewydd
cyn 1898
High Street, Newtown
  Ar y chwith, Tafarn y Buck yw’r hen adeilad wedi’i orchuddio ag eiddew. Mae i’w weld ar dudalen arall hefyd. Fe ymddengys bod y safle agosaf at y dafarn yn wag pan dynnwyd y llun hwn, ond erbyn 1906 roedd siop newydd wedi’i chodi yma.
Mae’r siop newydd i’w gweld mewn cerdyn post lliw o’r dyddiad hwnnw. Mae rhan ohono i’w weld ar y dde. Mae’r twr cloc wedi newid yr olygfa hefyd erbyn 1906.
Roedd safle’n dal ar ôl ar gyfer busnes rhwng y siop newydd a Thafarn y Buck. Roedd yn cael ei ddefnyddio fel iard ocsiwn ar un adeg, ond yn yr 1920au daeth yn garej fechan.
High Street, Newtown
 

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd