Y Drenewydd
Mapiau Fictoriaidd
  Y Drenewydd yn 1903  
 

Mae’r map isod yn ran o fap a luniwyd ar y raddfa o 6 modfedd = 1 filltir yn 1903. Mae’r map yn dangos rhai o’r newidiadau a ddaeth i’r dref yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.

 
  1. Mae’r map yn dangos y gweithiau nwy lle’r oedd nwy glo’n cael ei gynhyrchu trwy boethi’r glo hyd nes ei fod yn cynhyrchu nwy. Defnyddiwyd hwn ar gyfer goleuo strydoedd, ac ar gyfer ffyrnau nwy a golau nwy yn y cartrefi. Oherwydd dyfodiad y rheilffyrdd roedd glo yn rhatach i’w gludo i’r dref.  
  2. Mae’r map yn dangos ysgolion newydd yn y dref yn 1903 (i gyd â’r marc 2 yma). Er bod yna ysgolion yn y dref yn amser map y degwm, erbyn diwedd Oes Fictoria derbyniai pob plentyn addysg ac roedd yn rhaid iddynt fynd i’r ysgol. Roedd hyn yn ddechrau ar gynnig gwell cyfle i blant wedi iddynt adael yr ysgol.  
  3. Mae diwydiant wedi tyfu yn Y Drenewydd ers 1845. Mae 3 ffatri newydd wedi’u nodi yma; ffatrïoedd gwlân y Cambrian a’r Kymric a’r tanerdy ger yr afon.  
  4. Daeth y rheilffordd i’r Drenewydd. Golygai hyn y gallai cynnyrch lleol gael ei werthu mewn trefi ar hyd a lled Prydain. Golygai hefyd y gallai nwyddau rhad o’r tu allan gael eu gwerthu’n lleol, ac o ganlyniad byddai rhai o fusnesau crefftwyr lleol yn gorfod cau. Roedd dyfodiad y rheilffordd yn ei gwneud yn llawer haws teithio hefyd.  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd