Y Drenewydd
Mapiau Fictoriaidd
  Y Drenewydd yn 1845  
 

Mae’r map isod wedi’i seilio ar ran o fap y degwm o blwyf Y Drenewydd, ac mae’n rhoi darlun o’r dref inni yn ystod blynyddoedd cynnar Oes Fictoria. Edrychwch isod i ddarganfod mwy.

 

MAPIAU’R DEGWM Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb
  1. Newtown Hall. Yn y cyfnod hwn roedd yn gartref i’r Parch. George Evors. Roedd ef yn ddyn pwysig yn y dref ac yn berchen ar lawer o eiddo gan gynnwys y gerddi a nodwyd yn 18 ac 19 ar waelod y map. Adeiladodd felinau gwlân hefyd a helpodd i ddatblygu’r diwydiant.  
  2. Safai hen Neuadd y Farchnad yng nghanol Broad Street. Fel neuaddau tref Rhaeadr-Gwy a Llandrindod fe’i hadeiladwyd mewn cyfnod tawelach pan oedd y trefi’n llai a phan nad oedd llawer o draffig ar olwynion.  
  3. Yn ymyl y brif gyffordd wrth y fynedfa i’r dref saif iard goed Edward Morgans.  
  4. Eglwys newydd Dewi Sant a oedd yn cael ei hadeiladu yn ystod y cyfnod hwn. Roedd hen eglwys y Santes Fair ar lannau’r afon Hafren mewn cyflwr drwg, ac fel y tyfai poblogaeth y dref yn gyflym tyfai’r galw am eglwys newydd.  
  5. Y Gyfnewidfa Wlanen ger y Bont Hir. Fe’i hadeiladwyd fel marchnad i frethyn yn 1833. Pan luniwyd y map y degwm hwn roedd y diwydiant yn mynd trwy gyfnod gwael. Roedd yn galed iawn ar y gwehyddion oedd yn ei chael yn anodd i werthu’r brethyn.  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd